Ysgol Botwnnog

Hafan > Rhieni > Gwybodaeth Defnyddiol

Gwybodaeth Defnyddiol


GWISG YSGOL

CRYS CHWYS DU - Gwddw crwn gyda bathodyn yr ysgol*

CRYS POLO GWYN NEU DDU - Plaen neu gyda logo'r ysgol wedi ei wnïo arno

TROWSUS DU PLAEN/Jîns Du - dim cords, gwaelod trac wisg, leggings. jeggings na throwsus combat

SGERT DU PLAEN - sgert ysgol rhesymol o ran hyd gyda theits duon

ESGIDIAU DU PLAEN - Esgidiau / trainers unlliw du fflat - dim ysgrifen / logo. Dim boots

COTIAU - nid oes rheol ar gyfer y math / lliw o gôt a chaniateir - ni ddylid eu gwisgo yn yr ystafell ddosbarth na chwaith yn y neuadd na ffreutur. 

HWDÎS - dim ond hwdî Addysg Gorfforol a ganiateir a hynny yn ystod y gwers Addysg Gorfforol YN UNIG

GEMWAITH - Caniateir un pâr o studs bach clust ac un fodrwy bys yn unig - Dim mwclis na breichledau oherwydd iechyds a Diogelwch. Byddwn yn gofyn i ddisgyblion dynnu unrhyw emwaith arall. 

DILLAD AC OFFER YMARFER CORFF - Crys-T melyn plaen neu gyda logo’r ysgol wedi ei wnïo arno, siorts du plaen neu gyda logo’r ysgol wedi ei wnïo arno, sanau pen-glin duon. Trainers ac esgidiau pêl droed/blades. 

Gellir gwisgo gwisg trac lliw tywyll yn ystod y Gaeaf. Bydd cyfle i archebu hwdi ymarfer corff gydag enw’r disgybl arno yn ystod y tymor cyntaf pe dymunir.

Offer diogelwch personol:

Gorfodol: ‘Shin Pads’ – gorfodol ar gyfer hoci a phêl droed.

Dymunol: Cap sgrym ar gyfer rygbi a tharian ceg ar gyfer hoci a rygbi.

RHAID TYNNU gemwaith yn ystod gweithgareddau ymarfer corff am resymau iechyd a diogelwch.

GWISG YR HAF - bydd yr ysgol yn cysylltu gyda chi i gadarnhau caniatâd i wisgo siorts du plaen / siorts Addysg Gorfforol yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.