Ysgol Botwnnog

Hafan > Y Cwricwlwm > Cyfnod Allweddol 3

Cyfnod Allweddol 3


Mae’r DYFODOL yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei wneud yn y PRESENNOL

myfyriwr yn defnyddio morthwyl yn y gweithdy

Ein prif nod yma yn Ysgol Botwnnog yw creu awyrgylch ddysgu lle mae’r disgyblion yn teimlo’n hapus, ddiogel ac yn mwynhau dysgu.

Mae pob unigolyn yn bwysig yn yr Ysgol, ac rydym yn sicrhau bod pob disgybl yn derbyn Cwricwlwm sydd yn addas iddyn nhw fel unigolion yn yr Ysgol.  Mae hyn yn cyd-fynd gyda’r 4 diben er mwyn sicrhau’r addysg a’r profiadau gorau i’r dysgwyr yma yn Ysgol Botwnnog.  Rydym yn darparu cwricwlwm sydd yn datblygu’r disgyblion mewn 6 maes dysgu a phrofiad.  Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfannol yn graidd i’r Cwricwlwm Newydd gyda phob un ohonynt yn plethu i’w gilydd. 

Y 4 DIBEN 

Mae’r 4 diben yn hanfodol i ni yma yn Ysgol Botwnnog, maent yn graidd i’r gwaith cynllunio, yr addasu a gwerthuso’r cwricwlwm yma yn yr Ysgol.  Y 4 diben yw: (cyfieithiad i ddilyn)

  • Ambitious, Capable Learners
  • Ethical, Informed Citizens
  • Enterprising, Creative Contributors
  • Healthy, Confident Individuals

MEYSYDD DYSGU A PHROFIAD 

Mae’r adrannau bellach yn newid i Feysydd Dysgu a Phrofiad, dyma yw’r 6 maes gyda’r pynciau fel yr oeddent yn draddodiadol, yn amlwg rhain fydd yn ganolog i Addysg y disgyblion yn Ysgol Botwnnog: 

Celfyddydau Mynegiannol

Celf, Cerdd, Dawns, Drama, Ffilm, Cyfryngau

Iechyd a Lles

Iechyd a Lles, Addysg Gorfforol, Bwyd a Maeth

Dyniaethau

Daearyddiaeth, Hanes, Crefydd Gwerthoedd a Moeseg, Busnes

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cymraeg, Saesneg a Ieithoedd Rhyngwladol

Mathemateg a Rhifedd

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol, Dylunio a Thechnoleg - Tecstiliau, Dylunio Cynnyrch a Bwyd a Maeth

SGILIAU TRAWSGWRICWLAIDD 

Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd a restrir isod yn cael eu cymhwyso a’u datblygu ymhellach o fewn y 6 Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn sicrhau cyfleon: 

  • i ddatblygu sgiliau gwrando, siarad ac ysgrifennu (llythrennedd) 
  • i ddefnyddio rhifau ac i ddatrys problemau yn gysylltiedig â chyd destunau bywyd go iawn (rhifedd) 
  • i ddefnyddio amryw o dechnolegau digidol er mwyn eu helpu i gyfathrebu’n effeithiol ac i wneud synnwyr o’r byd (cymhwysedd digidol) 

SGILIAU CYFANNOL 

Bydd y sgiliau cyfannol yn derbyn sylw penodol yn y Cwricwlwm Newydd, byddant yn sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr Addysg orau bosibl yn yr ysgol ac yn meithrin a datblygu: 

  • Creadigrwydd ac arloesedd 

  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau 

  • Effeithiolrwydd personol 

  • Cynllunio a threfnu 

EGWYDDORION CYNNYDD 

Mae’r egwyddorion cynnydd yn ganolog wrth gynllunio’r Cwricwlwm Newydd yma yn Ysgol Botwnnog, maent ychydig yn wahanol ar gyfer Mathemateg a Rhifedd, ond yn gyson ar draws y 5 Maes Profiad a Dysgu arall: 

  • Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol 

  • Dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y Meysydd 

  • Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau 

  • Creu cysylltiadau a throsglwyddo  dysgu i gyd-destunau newydd 

  • Effeithiolrwydd cynyddol 

Egwyddorion Cynnydd Mathemateg a Rhifedd : 

Hyfedreddau 

  • Dealltwriaeth gysyniadol 

  • Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau 

  • Rhuglder 

  • Rhesymu rhesymegol 

  • Cymhwysedd strategol 

12 EGWYDDOR dysgu ac addysgu 

Mae dysgu ac addysgu da yn flaenoriaeth yma yn Ysgol Botwnnog er mwyn rhoi’r profiadau gorau i’r disgyblion ar llawr y dosbarth a thu hwnt iddi.  Mae’r 12 egwyddor addysgeg yn sicrhau bod y dysgu a’r addysgu yn gyfoes a chytbwys. Mae dysgu ac addysgu da yn golygu: 

•  Canolbwyntio’n gyson  

•  Yn rhoi her i’r holl ddysgwyr  

•  Defnyddio cymysgedd o ddulliau  

•  Defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy’n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol 

•  gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb  

•  creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu  

•  dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu  

•  ymestyn oddi mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad  

•  cryfhau’n gyson cysylltiadau trawsgwricwlaidd a chyfleoedd yn cael eu darparu i’w hymarfer 

•  cymell plant a phobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain  

•  hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol  

•  hybu cydweithio 

ADDYSG CYDBERTHYNAS A RHYWIOLDEB 

Mae hybu lles a diogelwch ein dysgwyr yn holl-bwysig i ni yn Ysgol Botwnnog. Mae’n hanfodol bod ein dysgwyr yn cael eu grymuso yn raddol gyda’r wybodaeth briodol er mwyn sicrhau eu bod yn cadw eu hunain ac eraill yn saff. Dyma’r themâu fydd yn cael sylw dros gyfnod eu haddysg uwchradd: 

  • Hawliau a chydraddoldeb 

  • Cydberthnasau 

  • Rhyw, rhywedd a rhywioldeb 

  • Cyrff a delwedd gorfforol 

  • Iechyd a lles rhywiol 

  • Trais, diogelwch a chymorth 

CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG  

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan o faes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau.  Mae’r gwersi yn: 

  • adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf yn rhai Cristnogol ond gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill. 

  • adlewyrchu’r ffaith bod nifer o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol hefyd yn cael eu dal. 

  • cael eu darparu mewn ffordd wrthrychol a beirniadol, gyda’r athrawon yn defnyddio dull diduedd nad yw’n annog plant na’i gwneud yn ofynnol iddynt fod yn grefyddol neu’n anghrefyddol nac i dderbyn safbwynt penodol 

ADDYSG GYRFAOEDD A PHROFIADAU SYDD YN GYSYLLTIEDIG A BYD GWAITH 

Ym Motwnnog rydym yn cyd-weithio gyda amryw o asiantaethau allanol er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau bosibl i’r holl ddysgwyr.  Mae’r addysg yma’n hanfodol er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn barod ar gyfer y byd gwaith.  Byddwn yn parhau i gyd-weithio gyda asiantaethau allanol er mwyn rhoi cyfleoedd amrywiol a gwybodaeth briodol i’r dysgwyr.  Mae’r Cwricwlwm Newydd yn gyfle i fireinio y Cwricwlwm er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ein dysgwyr yma yn yr Ysgol. 

CYD-DESTUNAU LLEOL, CENEDLAETHOL A RHYNGWLADOL 

Mae sicrhau’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn hanfodol bwysig er mwyn llwyddiant y Cwricwlwm yn Genedlaethol ac yn lleol yma yn Ysgol Botwnnog.  Mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynllunio eu Cwricwlwm ar gyfer y dysgwyr. 

PONTIO 

Mae’r Pontio effeithiol rhwng y Cynradd a’r Uwchradd yn greiddiol i lwyddiant ein disgyblion (gweler ein Strategaeth Pontio 2023 – 2025 am fwy o wybodaeth).  Gan edrych yn benodol ar y Cwricwlwm Newydd mae’n hanfodol bod disgyblion y clwstwr yn rhan o’r broses trosglwyddo er mwyn sicrhau ei fod mor llyfn â phosibl.